Pwy wrendy gŵyn fy enaid gwan?
Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan?

(Cydymdeimlad Crist)
Pwy wrendy gŵyn
    fy enaid gwan?
Pwy'm cwyd o'm holl ofidiau i'r lan?
  Pwy ddwg fy maich
      fel Brenin ne'?
  Pwy gydymdeimla fel Efe?

O! dyma un, dywedwch p'le
Y gwelir arall fel Efe,
  A bery'n ffyddlon imi o hyd
  Ym mhob rhyw drallod yn y byd?

Fy enaid, cân oherwydd hyn,
A chofia am Galfaria fryn;
  A than ei gysgod gwna dy nyth,
  Mae yno ddiogelwch byth.
O! dyma un :: Wel dyma un
              - - - - -

Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan?
Pwy'm cwyd o'm holl ofidiau i'r lan?
  Pwy garia 'maich
      fel Brenin ne'?
  Pwy gydymdeimla fel efe?

'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'
Yn Frawd a Phriod imi mwy; 
  Ef yn Arweinydd, ef yn Ben,
  I'm dwyn o'r byd
      i'r nefoedd wen.

Pa'm cara i'r byd,
    a'i wagedd mwy?
Hyd angeu'n brin y deuant hwy;
  Gwell genyf garu'r
      Ffrind a ddaw,
  Yn angeu i 'maflyd yn fy llaw.

              - - - - -

Pwy wrendy gwyn
    fy enaid gwàn,
Pwy gydymdeimla yn mhob màn?
  Pwy ŵyr fy eisiau nos a dydd?
  Pwy ddyry f'enaid caeth yn rhydd?
Neb ond yr hwn fu ar y groes
Yn dyddef droswyf farwol loes;
  Efe sy'n awr tu draw i'r llèn,
  Yn eiriol yn nefoedd wèn.

Pan byddwyf rhwng y tònau mawr,
Mewn braw ac ofn yn suddo lawr,
  A chan eu sŵn - fy enaid sỳn!
  Yn teimlo annghrediniaeth tỳn,
Pwy'm dwg i'r làn er maint y lli',
O Iesu grasol! ond tydi,
  A gwneud im' gerdded ar y dòn,
  Gan roi tangnefedd tan fy mron?

Yn wyneb pob rhyw 'storom gref
Mi drof fy ngolwg ato ef;
  Mae gair o'i enau ef yn awr
  Yn fwy na gallu uffern fawr;
Mae'n agor y carcharau'n un,
Mae yn rhyddhau y caeth ei hun,
  Ac yn cyhoeddi gwir ryddhâd
  Tragwyddol mewn maddeuant rhâd.

O! f'enaid, cân oherwydd hyn,
A chofia am Galfaria fryn,
  A than ei gysgod gwna dy nyth -
  Mae yma ddiogelwch byth;
Ac nid oes damnedigaeth mwy
I'r sawl a guddiwyd yn ei glwy',
  Ond bydd rhyfeddu
      dwyfol loes
  Yr hwn fu'n marw ar y groes.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Angelus (Heilige Seelenlust 1657)
Brynteg (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Eden (The Sacred Harp 1841)
Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)
Winchester (B Crasselius 1650-90)

gwelir:
  Beth dâl im' roi fy serch a'm bryd?
  Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn
  Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist
  Nid oes un gwrthddrych yn y byd
  Ni carai'r byd na'i wagedd mwy
  Pa'm carai'r byd na'i wagedd mwy?
  Pechadur wyf da gŵyr fy Nuw
  'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy'

(The Sympathy of Christ)
Who will hear the complaint
    of my weak soul?
Who will lift me up from all my griefs?
  Who will bear my burden
      like the King of heaven?
  Who will sympathise like He?

O here is one! Tell ye where
Is to be seen another like He,
  Who will continue faithful to me always
  In every kind of trouble in the world?

My soul, sing because of this,
And remember Calvary hill;
  And under its shadow make thy nest,
  There is safety there forever.
O here is one :: See here is one
                - - - - -

Who will hear the groans of my weak soul?
Who will raise up all my fears?
  Who will carry my burden
      like the King of heaven?
  Who will sympathise like he?

I am choosing Jesus and his mortal wound
As Brother and Spouse to me evermore;
  He as Leader, he as Head,
  To take me from the world
      to bright heaven.

Why shall I love the world,
    and its emptiness any more?
As far as death they scarcely shall come;
  I would rather love the
      Friend who is coming,
  In death to take hold of me by my hand.

                 - - - - -

Who will listen to the complaint
    of my weak soul,
Who will sympathise in every place?
  Who knows my needs night and day?
  Who will set my captive soul free?
None but he who was on the cross
Suffering for me the throes of death;
  He who is now beyond the curtain,
  Interceding in bright heaven.

When I am between the great waves,
In terror and fear sinking down,
  And by their sound - my surprised soul!
  Feeling tight unbelief,
Who will bring me up despite the flood,
O gracious Jesus! but thee,
  And make me walk the wave,
  By putting tranquility under my breast?

In the face of every strong storm
I will turn my gaze to him;
  A word from his mouth is now
  Greater than the power of great hell;
He is opening the prisons as one,
And freeing the captives himself,
  And publishing true, eternal
  Freedom in free forgiveness.
  
O my soul, sing because of this!
And remember Calvary hill,
  And under his shade I will make my nest -
  Here there is safety forever;
And there is no more condemnation
To those who were hidden in his wound,
  But there will be wondering
      at the throes of death
  Of him who died on the cross.
tr. 2016,25 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~